Cyn i chi ddechrau

Byddwn nawr yn gofyn i chi ychydig o gwestiynau am eich cymhwyster am drwydded yrru dros dro gyntaf ac wedyn cadarnhau eich hunaniaeth.

Bydd angen i chi ddarparu:

  • eich e-bost a chyfrinair os oes gennych gyfrif gyrrwr a cherbydau
  • rhif eich dogfen adnabod. Gallwch ddefnyddio:
    • pasbort y DU (gellir defnyddio pasbort a ddaeth i ben o fewn y 12 mis diwethaf ar gyfer y gwasanaeth hwn).
    • pasbort o'r tu allan i’r DU
    • caniatâd preswylio biometrig
    • cerdyn preswylio biometrig
    • cerdyn adnabod cenedlaethol
  • eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn ei wybod
  • efallai y bydd angen i chi ddarparu cyfeiriadau ble rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf hefyd
Trwy ddarparu'r manylion hyn, bydd yn helpu i gyflymu'ch cais a gallai osgoi bod angen i chi wirio'ch hunaniaeth trwy'r post.

Bydd hefyd angen i chi ddarparu ffotograff a llofnod dilys am eich trwydded dros dro. Efallai y byddwn yn gallu defnyddio eich ffotograff a llofnod pasbort os oes gan eich pasbort un.