Datganiad hygyrchedd ar gyfer 'Gwneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf'

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys ar gyfer www.gov.uk/cais-trwydded-yrru-dros-dro.

Rheolir y wefan hon gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu ei defnyddio. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w deall.

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod bod y wefan hon yn cydymffurfio'n llawn gyda'r holl safonau hygyrchedd A ac AA yn dilyn archwiliad hygyrchedd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF, print mawr, hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille hygyrch:

E-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt drwy:

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

Gwasanaethau Gyrwyr – John.Hewson@dvla.gov.uk

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd') Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) .

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.

Baich anghymesur

Nid ydym yn teimlo bod baich anghymesur wrth drwsio unrhyw broblemau hygyrchedd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Pwrpas Ardal (AAA)

Unwaith y bydd defnyddwyr yn ychwanegu ffotograff o'u llofnod yn llwyddiannus, maent yn cael eu llywio i dudalen newydd a bydd hysbysiad cadarnhau ar y dudalen. Dangosir pwrpas y wybodaeth hon drwy gefndir gwyrdd. Fodd bynnag, ni ellir pennu'r cyd-destun hwn yn rhaglennol. Efallai na fydd defnyddwyr darllenwyr sgrin yn gallu lleoli'r wybodaeth hon yn hawdd neu'n deall ei phwrpas fel neges gadarnhau, yn enwedig gan fod testun arall ar y dudalen sy'n ymddangos fel petai'n ei wrth-ddweud.

Atal gwallau (AAA)

Ni all ddefnyddwyr llywio yn ôl drwy'r gwasanaeth i newid manylion personol gan eu bod wedi'u gwirio.

PDFau a dogfennau eraill

Darperir y wybodaeth hon yn ein polisi dogfennau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio o fodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae DVLA yn gweithio i wella hygyrchedd ei holl wasanaethau. Diweddarir ein gwasanaethau mwy newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau Hygyrchedd yn ystod 2020 a 2021. Adolygir ein gwasanaethau ar-lein i yrwyr ar hyn o bryd gyda'r nod i'w disodli gyda gwasanaethau mwy hygyrch a syml yn ystod y 2 flynedd nesaf.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 3 Mehefin 2021. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 7 Mehefin 2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 6 Mai 2021. Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre.

Defnyddiom y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i brofi'r daith yn llawn gyda llofnod wedi'i lanlwytho a gwiriad cynnydd.

Gallwch ddarllen yr adroddiad prawf hygyrchedd cyfan ar gais.