Cyn i chi ddechrau
Byddwn nawr yn gofyn i chi ychydig o gwestiynau am eich cymhwyster am drwydded yrru dros dro gyntaf ac wedyn cadarnhau eich hunaniaeth.
Bydd angen i chi ddarparu:
- eich rhif pasbort y DU (gellir defnyddio pasbort a ddaeth i ben yn ystod y 12 mis diwethaf ar gyfer y gwasanaeth hwn)
- eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn ei wybod
- efallai y bydd angen i chi ddarparu cyfeiriadau ble rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf hefyd
Trwy ddarparu'r manylion hyn, bydd yn helpu i gyflymu'ch cais a gallai osgoi bod angen i chi wirio'ch hunaniaeth trwy'r post.
Bydd hefyd angen i chi ddarparu ffotograff a llofnod dilys am eich trwydded dros dro. Efallai y byddwn yn gallu defnyddio eich ffotograff a llofnod pasbort os oes gan eich pasbort un.