Telerau ac Amodau
Mae'r gwasanaeth ar-lein hwn yn eich galluogi i wneud cais am eich trwydded yrru dros dro gyntaf. Yn y dyfodol, efallai y bydd gwasanaethau a nodweddion ychwanegol yn cael eu hychwanegu.
Trwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn ac yn cytuno i gadw atynt.
Yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Asiantaeth Weithredol yr Adran Drafnidiaeth, sy'n berchen ar y gwasanaeth ac yn ei redeg.
Efallai y cewch eich ailgyfeirio i dudalen we GOV.UK One Login i brofi pwy ydych.
GOV.UK One Login
GOV.UK One Login yw'r ffordd newydd o fewngofnodi i wasanaethau’r llywodraeth. Mae'n darparu ffordd syml ichi fewngofnodi a phrofi pwy ydych gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Rheolir GOV.UK One Login gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) ar ran y Goron.
Darllenwch y telerau ac amodau GOV.UK One Login cyn defnyddio GOV.UK One Login. Trwy gofrestru ar gyfer a pharhau i ddefnyddio GOV.UK One Login rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau hyn.
Amodau Defnydd
Byddwch chi, y cwsmer, yn cymryd cyfrifoldeb diogelu data yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data am unrhyw wybodaeth y bydd gennych fynediad iddi fel deiliad trwydded yrru.
Costau
Bydd Mae’n bosibl y bydd cost yn gysylltiedig â'r gwasanaeth hwn yn unol â'r ffioedd a ddiffinnir yn y Ddeddfwriaeth.
Mae DVLA yn cadw'r hawl i adolygu cost y gwasanaeth hwn fel ei fod yn unol â'r ffioedd a ddiffinnir yn Atodlen 3 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) (1999).
Terfynu
Mae DVLA yn cadw’r hawl i dynnu’r gwasanaeth hwn yn ôl ar unrhyw adeg a heb rybudd ymlaen llaw.
Parhad gwasanaeth
Lle bo modd, bydd DVLA yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau nad oes unrhyw doriad ym mharhad y gwasanaeth a bydd ond yn gwneud newidiadau pan fo angen. Mae'n bosibl y bydd angen toriadau ar adegau pan fydd angen uwchraddiadau hanfodol i’r gwasanaeth.
Ymwadiad
Nid yw DVLA yn derbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ddefnyddwyr y gwasanaeth hwn, boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, boed hynny oherwydd camwedd, tor-cytundeb neu fel arall, mewn cysylltiad â’n gwasanaeth, ei ddefnydd, anallu i ddefnyddio, neu ganlyniadau defnyddio ein gwasanaeth, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig ag ef ac unrhyw ddeunyddiau a bostiwyd arno.
Gallai hyn gynnwys colli::
- incwm neu refeniw
- busnes
- elw neu gontractau
- rhagweld arbedion
- data
- ewyllys da
- eiddo diriaethol
- gwastraffu amser rheolwyr neu swyddfa
Mae gwefannau neu dudalennau gwe y mae'r gwasanaeth hwn yn gysylltiedig â nhw er gwybodaeth yn unig.
Nid yw DVLA yn rheoli, yn cymeradwyo, yn noddi nac yn cymeradwyo cynnwys ar wefannau neu dudalennau o’r fath, ac eithrio lle nodir yn benodol fel arall.
Cwcis
Drwy ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a chytuno i’r telerau ac amodau hyn, rydych chi, y cwsmer, yn cytuno y bydd DVLA yn casglu gwybodaeth yn ymwneud â defnyddio’r gwasanaeth. Pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon, mae'n bosibl y bydd ychydig bach o ddata a elwir yn gwci yn cael ei storio ar eich dyfais. Mae DVLA yn defnyddio cwcis i wella’r safle drwy fonitro sut rydych chi, y cwsmer, yn ei ddefnyddio. Gallwch chi ffurfweddu'ch dyfais i wrthod cwcis. Noder efallai na fyddwch yn gallu cyrchu neu ddefnyddio rhai o nodweddion y wefan hon os byddwch yn gwrthod cwci. Darllenwch y polisi cwcis a phreifatrwydd polisi cwcis (yn agor mewn tab newydd) am ragor o wybodaeth.
Amddiffyn rhag feirysau
Bydd DVLA yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r cynhyrchiad. Fodd bynnag, mae'n rhaid ichi, y cwsmer, gymryd eich rhagofalon eich hun i sicrhau nad yw'r broses a ddefnyddiwch ar gyfer cyrchu'r gwasanaeth hwn yn eich gwneud yn agored i'r risg o feirysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a allai niweidio'ch dyfais.
Nid yw DVLA yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch dyfais a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r gwasanaeth hwn.
Feirysau, hacio a throseddau eraill
Os ydych chi, y cwsmer, yn camddefnyddio’r gwasanaeth trwy gyflwyno’n fwriadol feirysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol yn dechnolegol neu’n ceisio cael mynediad anawdurdodedig i’r gwasanaeth neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â DVLA, yn ymosod ar ein gwasanaeth trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth dosranedig, byddwch chi, y cwsmer, yn cyflawni ymosodiad troseddol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Bydd DVLA yn riportio unrhyw doriad o'r fath i awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol a bydd yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych iddynt.
Hawlfraint ac atgynhyrchu
Mae'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn cael ei warchod gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch y dudalen hawlfraint y Goron (yn agor mewn tab newydd) am ragor o wybodaeth..
Mae'r enwau, y delweddau a'r logos sy'n dynodi DVLA yn nodau perchnogol i DVLA. Ni chaniateir copïo logos DVLA a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill y ceir mynediad iddynt drwy’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint berthnasol.
Ni chaniateir ichi, y cwsmer, addasu neu addasu'r wybodaeth, bydd unrhyw ymgais i wneud hynny yn gyfystyr â thorri'r telerau ac amodau hyn.
Newidiadau
Mae DVLA yn cadw’r hawl, yn ôl ei disgresiwn, i wneud newidiadau i unrhyw ran o’r gwasanaeth hwn, y wybodaeth, neu’r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg. Os bydd DVLA yn newid y telerau ac amodau hyn, bydd copi wedi'i ddiweddaru ar gael ar y dudalen hon.
Toradwyedd
Os bernir bod unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sy’n weddill serch hynny yn parhau mewn grym llawn.
Os bydd DVLA yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael iddi o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny’n cael eu hepgor yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.
Digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth DVLA
Nid yw DVLA yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn lle mae methiant o’r fath oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth resymol. Os bydd DVLA yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael iddi o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny’n cael eu hepgor yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.
Cyfraith lywodraethol
Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.